Caerdydd yn trechu Huddersfield

Image copyright PA
Image caption Kenwyne Jones oedd seren y sioe

Caerdydd 3 Huddersfield 1

Sgoriodd Kenwyne Jones ddwywaith wrth i dîm y brifddinas gael buddugoliaeth haeddiannol yn erbyn Huddersfield.

Mae gan Jones gyfanswm o dair gôl mewn dwy gêm felly, ar ôl sgorio unig gôl Caerdydd y penwythnos diwethaf.

Roedd yna gôl hefyd i Peter Whittingham, chwaraewr canol cae Caerdydd.

Fe ildiodd Caerydd gôl eiliadau cyn yr egwyl, Murray Wallace y sgoriwr i'r ymwelwyr.

'Doedd Caerdydd ddim ar eu gorau heddiw, ond roedd grym ymosodol Caerdydd yn ormod i Huddersfield.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Caerdydd yn codi i'r trydydd safle yn y bencampwriaeth.