Bachgen, 4, yn cael ei achub o ddoc yn Abertawe

doc abertawe Image copyright Andrew Davis
Image caption Disgynodd y bachgen i'r môr ar ôl iddo grwydro oddi wrth ei fam

Mae bachgen pedair blwydd oed wedi cael ei achub o ddoc yn Abertawe, ar ôl i ddyn mewn bwyty gerllaw ei weld yn syrthio i mewn.

Disgynodd y bachgen, tua 6 troedfedd i mewn i hen ddoc Tywysog Cymru tua 17:00 ddydd Sadwrn.

Neidiodd dyn lleol, 50, i mewn i'r dŵr er mwyn achub y bachgen cyn i barafeddygon fynd a'r plentyn i Ysbyty Treforys, Abertawe am archwiliad meddygol.

Dywedodd gwylwyr y glannau Abertawe, yn ôl pob golwg roedd y bachgen wedi crwydro oddi wrth ei fam, tra ei bod yn bwydo plentyn arall.

Dywedodd llefarydd: "Sylweddolodd y fam fod ei phlentyn wedi crwydro i ffwrdd wedi iddi glywed sŵn tasgu a phobl yn y dŵr gerllaw."

Dywedodd Mark James o wylwyr y glannau'r Mwmbwls fod y dyn a neidiodd i'r dŵr wedi gweld y bachgen yn disgyn tra oedd yn cael pryd o fwyd gyda'i deulu mewn bwyty cyfagos.

neidio i mewn

Dywedodd Mr James: "Nid wyf yn credu ei fod hyd wedi tynnu ei esgidiau cyn neidio i mewn."

Dywedodd hefyd fod bachgen yn ei arddegau wedi neidio i mewn, er mwyn helpu i ddod â'r bachgen i fyny'r ysgol ar ochr y doc.

Ychwanegodd "Nid oedd y bachgen yn ymddangos i fod mewn cyflwr gwael yn dilyn y digwyddiad."