Gwasanaeth i gloi penwythnos o gofio y rhyfel byd cyntaf

last post
Image caption Clywir utgorn yn seinio'r 'post olaf' ger mynedfa'r fynwent pob nos.

Mae seremoni i gofio dynion o Gymru a gollodd eu bywydau yn Fflandrys yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf wedi cael ei gynnal yng Ngwlad Belg.

Roedd tua 500 o bobl yn bresennol yn y gwasanaeth ym Mynwent Artillery Wood ddydd Sul, a dyma'r fan lle mae'r bardd Hedd Wyn wedi cael ei gladdu.

Fe seiniodd y Post Diwethaf i gydnabod a choffau'r Cymry a fu farw ym Mhorth Menin, yn Ypres, gan nodi diwedd penwythnos o ddigwyddiadau coffa yn y dref.

Dechreuodd y cofio ddydd Sadwrn wrth i gofeb i'r holl filwyr o Gymru a laddwyd yn y Rhyfel Mawr gael ei ddadorchuddio.

Roedd y bardd Hedd Wyn yn un o'r rhai a fu farw ar 31 Gorffennaf 1917 wrth frwydro mewn man cyfagos i'r lle mae'r gofeb newydd yn sefyll yn Langemark.

Yn yr un flwyddyn enillodd Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol am ei awdl Yr Arwr.

Image caption Mae'r bedd y bardd Hedd Wyn ym Mynwent yr Artillery Wood

Offeiriad plwyf Langemark, Bart Demuymck agorodd y gwasanaeth a thalodd deyrnged i'r bardd a dywedodd ei fod yn cynrychioli nifer o filwyr na chafwyd hyd iddynt.

"Mewn lle anghysbell ar feysydd Fflandrys, gymaint o flynyddoedd yn ôl, cafodd y wlad hon ei llygru gan ryfel didostur," meddai. "O holl wledydd y byd, daeth milwyr yma i geisio rhoi terfyn ar gasineb a thrais.

"Ni ddychwelodd nifer fawr ohonynt adref, a'u man gorffwys olaf oedd yma yn y pridd, mae un ohonynt yn adnabyddus iawn, Hedd Wyn.

"Drwyddo ef y byddwn yn cofio'r holl filwyr sydd wedi cael eu claddu yma."

Dywedodd Elfyn Llwyd, AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, sy'n cynnwys tref enedigol y bardd o Drawsfynydd mai pwrpas y seremoni oedd peidio â gogoneddu rhyfel, ond diolch i'r miloedd o ddynion a merched a gollodd eu bywydau dros eu gwlad.

Image caption Cafodd yr Aelod Seneddol Elfyn Llwyd gyfle i ddweud ychydig eiriau yn y gwasanaeth

"Heddiw yn Fflandrys rydym yn cael y fraint o gael y cyfle i ddiolch i'r miloedd o ddynion a merched ifanc a wnaeth yr aberthiad eithaf.

"Nid dathlu yw pwrpas y seremoni, ond gweithred o deyrnged i'r bobl ifanc ddewr a aberthodd eu bywydau er mwyn sicrhau dyfodol i ni"

Roedd perfformiadau gan y telynor Dylan Cernyw a Chôr Rygbi Gogledd Cymru, gan gynnwys yr emyn Cwm Rhondda yn Gymraeg,

Daeth y seremoni i ben gyda gweddi dros heddwch, cyn i'r dorf ddechrau canu anthem genedlaethol Cymru yn ddigymell.

Mae'r gromlech a adeiladwyd yn Langemark, Gwlad Belg, yn nodi 100 mlynedd ers dechrau'r rhyfel, ac yn benllanw blynyddoedd o ymgyrchu gan rai a oedd am weld cofeb barhaol yn cael ei chodi i goffau'r meirw..

Amcangyfrifir fod 40,000 o filwyr o Gymru wedi eu lladd yn y rhyfel rhwng 1914-1918.