Protest yn Abertawe'n achosi tagfeydd

protest dim ffracio Image copyright No Dash for Gas
Image caption Dywed y protestwyr eu bod nhw'n gwrthwynebu gwario arian cyhoeddus ar ymchwil ar ffracio

Gwnaeth protest ar safle campws newydd Prifysgol Abertawe ar Ffordd Fabian yn y ddinas yn achosi oedi sylweddol fore Llun.

Gwnaeth Heddlu'r De gynghori gyrwyr i osgoi'r ardal.

Dywedodd un o drefnwyr y brotest yn dweud eu bod yn gwrthwynebu ymchwil i ffracio gan y brifysgol.

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Abertawe: "Mae'r Brifysgol yn gobeithio bydd yr awdurdodau yn sicrhau bod y brotest yn tarfu cyn lleied â phosib. Byddwn yn cydweithio gyda'r heddlu a'n contractwyr y ddatrys y sefyllfa mor fuan â phosib."