Balchder Guto a Pride Cymru

Dros y penwythnos cafodd Pride Cymru ei gynnal yng Nghaerdydd, sef gŵyl i ddathlu pobl o bob rhywioldeb ac i annog cydraddoldeb.

Sefydlwyd yr ŵyl flynyddol yn 1999 dan yr enw 'Mardi Gras LGBT Caerdydd'. Eleni fe ddaeth yn ôl i Gaeau Coopers tu ôl i gastell y brifddinas.

Un o'r rhai oedd yn yr ŵyl oedd cyflwynydd C2, Guto Rhun. Cafodd Cymru Fyw gyfle i ofyn ychydig o gwestiynau i Guto ynglŷn â'i brofiadau o'r penwythnos.

Image caption Guto Rhun â rhai o'i ffrindiau newydd

Ydi hi'n ŵyl bwysig i'r gymuned hoyw?

"Yndi mai o'n bwysig i ni (pobl hoyw) gael dathlu ein hunaniaeth, ond eto 'da ni'n neud hynna yn ddyddiol beth bynnag.

"Roedd hi'n braf gweld pobl ifanc yn bod yn nhw eu hunain mewn awyrgylch gyfeillgar, heb unrhyw bwysau i guddio pwy ydyn nhw.

"Yr unig 'farnu' yn ystod yr ŵyl oedd ynglŷn â maint wigiau'r Drag Queens!"

Oedd hi'n ŵyl brysur?

"Roedd yr orymdaith yn mynd drwy ganol y ddinas am y drydedd flwyddyn yn olynol, ac yn fwy ac yn well nag erioed!!

"Mai'n ŵyl sydd 'di tyfu bob blwyddyn ers 1999. Mae 'na sôn fod yna 20,000 o bobl yno ddydd Sadwrn."

Oedd y mwyafrif yno yn hoyw?

"Oedd, ond mi roedd llawer iawn o bobl heterorywiol yno hefyd.

"Dydi hi ddim yn ŵyl sy'n gyfyngedig i bobl hoyw o gwbl, ond wrth gwrs mae sylw arbennig yn cael ei roi i'r gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDT)."

Image caption Guto gyda Glyn Wise (ar y chwith) a'r Frenhines Elizabeth (dde)

Pwy oedd yn perfformio?

"Roedd pethau'n dechrau am hanner dydd ac roedd 'na dipyn o berfformwyr ar y brif lwyfan.

"Roedd enillwyr Britain's Got Talent, Collabro, yno a La Voix a oedd hefyd ar y rhaglen. Roedd Stooshe a Misha B o'r X Factor yno hefyd.

"I bobl sy'n ffans o'r 90au, roedd Eternal yn canu.

"Roedd Union J i fod i ymddangos hefyd, ond mi wnaethon nhw dynnu allan er mwyn perfformio ar raglen y Loteri Genedlaethol. Oni'n siomedig iawn a bron imi grio pan wnes i glywed am hyn ar faes yr Eisteddfod (ond efallai mai blinder oedd hynny...!)"

Sut oedd yr awyrgylch?

"Roedd o fel un parti mawr, gyda digon o hwyl a lliwiau a phobl mewn pob math o wisgoedd ffansi.

"Roedd 'na hefyd ardal teuluoedd er mwyn diddanu plant a bar i'r rhai ohonon ni oedd isho peint.

"Roedd o fel Steddfod hoyw...ond hefo mwy o ddynion golygus, felly oni'n ffitio i fewn yn dda yna!

"Yn y nos roedd yna barti stryd mawr ar Ffordd Churchill yng nghanol y ddinas tan 6 y bore - lle da i gwrdd ag amrywiaeth o bobl."

Image caption Digon o hwyl a baneri

Beth yw'r pethau fydd yn aros yn y cof o'r ŵyl?

"Roedd o'n grêt gweld yr orymdaith yn dod lawr y stryd o Ffordd Churchill, rownd yr Hayes a gorffen wrth y castell - o'n i wrth fy modd cael ymuno â hi.

"Roedd hi hefyd yn neis gweld nifer o gyplau yn amlwg mewn cariad ac yn mynegi hyn yn agored heb ofni rhagfarn nag unrhyw wrthwynebiad cyhoeddus."

Oes gobaith i ail-greu'r ŵyl mewn dinasoedd a threfi eraill ledled Cymru?

"Mae gobaith i ledaenu ymhellach. Er bod digwyddiadau tebyg mewn ardaloedd eraill o Gymru, Caerdydd yw'r ŵyl fwyaf amlwg o bell ffordd.

"Mae gan Gaerdydd gymuned fawr o Gymry Cymraeg sy'n hoyw.

"Roedd hi'n hynod o braf gweld y bobl yma allan yn mwynhau eu hunain dros y penwythnos."

Gallwch glywed mwy am anturiaethau Guto yn Pride Cymru ar ei raglen ar C2 am 21.00 nos Lun. Fel ddywedodd Guto bydd "digon o anthemau, cymeriadau a dynion poeth".