Ffrae Caerdydd: Dirwy i Palace

Tony Pulis and Ole Gunnar Solskjaer Image copyright Reuters
Image caption Tony Pulis ac Ole Gunnar Solskjær yn ystod y gêm

Mae'r Uwchgynghrair wedi cyhoeddi bod clwb pêl-droed Crystal Palace wedi cael dirwy, wedi honiadau eu bod nhw wedi derbyn manylion am garfan Caerdydd cyn gêm rhwng y ddau dîm fis Ebrill.

Colli o dair gôl i ddim oedd hanes yr Adar Gleision yn y gêm, ac fe alwodd y clwb am ddiystyru'r canlyniad, oherwydd y twyll honedig.

Yn dilyn y digwyddiad, fe gafodd dau aelod o staff Caerdydd eu disgyblu.

Fe ddywedodd rheolwr Crystal Palace ar y pryd, Tony Pulis y byddai'n "hapus i drafod" y digwyddiad gyda'r Uwchgynghrair.

"Dw i'n cadw cofnod o bob sesiwn ac fe fyddai'n mynd â'r nodiadau at yr Uwchgynghrair i brofi 'mod i wedi dewis fy nhîm y dydd Llun cyn hynny," meddai Pulis.

"Fe weithion ni gyda'r tîm hwnnw am wythnos a doedd 'na ddim newidiadau o gwbl."

Mae Pulis wedi gadael Crystal Palace erbyn hyn.

Straeon perthnasol