Enwi dynes fu farw yn ei fflat yn Llandudno

Mae cwest wedi clywed bod offer yn ymwneud â chyffuriau wedi eu darganfod mewn fflat yn Llandudno lle bu farw dynes yr wythnos diwethaf.

Clywodd y cwest yn Rhuthun ddydd Llun mai'r ddynes oedd Sophy Steele-Perkins, 29 oed.

Dywedodd y crwner, John Gittins, fod ei phartner, Alan Fitzsimmons, wedi adnabod y corff. Roedd wedi dweud wrth yr heddlu bod y cwpl wedi bod yn yfed gyda'i gilydd yn y fflat ar Stryd Charlton ar Awst 11.

Aeth y ddau i gysgu yn yr ystafell fyw a'r bore wedyn daeth o hyd iddi yn gorwedd ar y llawr. Roedd offer cyffuriau yn y gegin, meddai.

Cafodd post mortem ei gynnal ond mae angen cadarnhau canlyniadau profion gwenwyn.

Cafodd y cwest ei ohirio a bydd gwrandawiad llawn yn cael ei gynnal ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf.

Straeon perthnasol