Refferendwm yr Alban: Y farn yn Lloegr

arian
Image caption Yn 2012-13, roedd gwariant cyhoeddus y pen yn yr Alban yn £10,327, o'i gymharu â chyfartaledd o £8,940 ar gyfer y DU

Mae pleidleiswyr yn Lloegr yn credu y dylid cwtogi ar wariant cyhoeddus yn yr Alban ac y dylai gweinidogion yr Alban gael rhagor o bwerau i godi arian wedi pleidlais 'Na' yn refferendwm mis nesa'.

Bydd pleidleiswyr yn yr Alban yn penderfynu a ddylai'r Alban fod yn wlad annibynnol mewn refferendwm ar Fedi 18 ac ar hyn o bryd mae'r polau piniwn yn awgrymu mai pleidlais 'Na' sy'n fwya' tebygol.

Mae ymchwil gan brifysgolion Caerdydd a Chaeredin yn awgrymu bod pleidleiswyr yn Lloegr yn amheus ynghylch iechyd tymor-hir yr undeb, ac yn awyddus i ddod â lefelau gwariant cyhoeddus yn yr Alban lawr i'r lefelau yng ngweddill y DU.

Roedd pleidleiswyr yng Nghymru yn llai awyddus i weld gwariant cyhoeddus yn cael ei gwtogi, yn ôl yr ymchwil.

Fformiwla Barnett

Yn 2012-13, roedd gwariant cyhoeddus y pen yn yr Alban yn £10,327, o'i gymharu â chyfartaledd o £8,940 ar gyfer y DU.

Byddai unrhyw newidiadau yn golygu ailwampio fformiwla Barnett, sy'n dyrannu arian i wahanol rannau'r DU, ac sydd, yn ôl llawer, yn anfanteisiol i Gymru.

Yn yr arolwg o 3,600 o bleidleiswyr yn Lloegr, roedd 56% o blaid lleihau gwariant cyhoeddus yn yr Alban, a 12% yn erbyn. Roedd cyfanswm o 43% o blaid rhoi rhagor o bwerau codi trethi i Senedd yr Alban, gyda 25% yn erbyn.

Pe bai yna bleidlais 'Ie' ym mis Medi, dywedodd 53% y bydden nhw yn erbyn caniatáu i Alban annibynnol rannu'r bunt, gyda 23% o blaid.

'Cefnogaeth gref yn Lloegr i doriadau yn yr Alban'

Ar y cyfan roedd pleidleiswyr yn Lloegr yn erbyn annibyniaeth i'r Alban o fwyafrif o dri i un (59% Na, 19% Ie). Cefnogwyr Ukip oedd fwyaf cefnogol i annibyniaeth i'r Alban gyda 33% ohonyn nhw'n dweud 'Ie', o'i gymharu â llai nag 20% ymysg cefnogwyr Llafur, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd: "Er y fantais i'r 'Na' ym mhob pôl piniwn diweddar, mae'n syndod cyn lleied o graffu sydd wedi bod ar yr hyn y mae'r pleidiau sy'n cefnogi'r undeb yn ei addo wedi pleidlais Na.

"Mae'r Alban wedi cael addewid y gall hi gynnal ei sefyllfa fanteisiol bresennol o safbwynt gwariant cyhoeddus y pen, ac na fydd yna ddim newid yn statws yr ASau Albanaidd yn San Steffan.

"Ond mae'n amlwg nad ydy pleidleiswyr Lloegr yn cefnogi hyn.

"Mae yna gefnogaeth Seisnig gref i leihau lefelau gwariant cyhoeddus yn yr Alban i'r cyfartaledd ar gyfer y DU - datblygiad a fyddai'n arwain at doriadau llym mewn gwasanaethau cyhoeddus yn yr Alban. Mae yna gefnogaeth aruthrol yn Lloegr i gyfyngu ar rôl ASau Albanaidd yn San Steffan hefyd.

"Y cwestiwn ar gyfer pleidleiswyr Albanaidd yw a allan nhw ddibynnu ar addewidion am ganlyniadau pleidlais Na, pan mae'n ymddangos nad yw'r addewidion o'r fath yn cael cefnogaeth gan y rhan fwyaf - a'r pwysicaf o safbwynt gwleidyddol - o'r undeb?

"Y gwirionedd yw nad yw hi'n ymddangos bod y Saeson mewn hwyliau i fod yn arbennig o gymodlon sut bynnag mae'r Albanwyr yn dewis pleidleisio yn eu refferendwm ar annibyniaeth."

Dywedodd yr Athro Roger Scully o Brifysgol Caerdydd: "Mae'n ddiddorol er bod yna braidd ddim gwahaniaeth yn safbwyntiau pobl Lloegr a Chymru ynghylch beth maen nhw am ei weld yn digwydd yn refferendwm yr Alban, mae yna wahaniaethau clir yn yr hyn y mae pobl am weld yn digwydd wedyn.

"A bod yn gignoeth, mae'r Saeson yn fwy tueddol i fod eisiau bod yn ddidrugaredd gyda'r Alban. Mae pobl yng Nghymru yn fwy gochelgar am hyn ac yn fwy ffafriol i agwedd mwy cymodlon."

Siaradodd yr ymchwilwyr â 3,695 o oedolion yn Lloegr a 1,027 yng Nghymru yn ystod Ebrill 2014.

Straeon perthnasol