Caerdydd 1-0 Wigan

Caerdydd Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Caerdydd wedi parhau gyda'i dechrau da i'r tymor newydd yn y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth o 1-0 dros Wigan.

Nicky Maynard, oedd ar fenthyg gyda Wigan y tymor diwethaf, sgoriodd unig gôl y gêm.

Roedd Martyn Waghorn bron iawn a chipio pwynt i Wigan ond saethodd heibio'r postyn o bêl Don Cowie.

Llwyddodd yr Adar Gleision i aros ar y blaen tan y diwedd, gan sicrhau eu hail fuddugoliaeth y tymor hwn.

Dyma oedd y tro cyntaf i Gaerdydd guro Wigan mewn 12 gêm.

Doedd yr un o'r timau yn gallu manteisio yn yr hanner cyntaf, er i golwr Wigan orfod bod yn ddeffro o'r cychwyn cyntaf i gadw ergyd Aaron Gunnarsson allan o'r rhwyd yn yr ail funud.

Roedd golwr Caerdydd, David Marshall yn brysur hefyd, gan gadw ergyd Callum McManaman allan yn yr hanner cyntaf.

Ond daeth y gôl gyntaf yn gynnar yn yr ail hanner drwy Maynard.

Llwyddodd yr ymosodwr 27 oed i saethu yn isel i'r rhwyd ar ôl i Kenwyne Jones benio i'r cwrt cosbi.

Dyma oedd ail fuddugoliaeth yr Adar Gleision yn Stadiwm Dinas Caerdydd, wedi eu buddugoliaeth o 3-1 dros Huddersfield dros y penwythnos.

Straeon perthnasol