Mansfield 1-0 Casnewydd

Mansfield v Casnewydd Image copyright Getty Images

Mae gôl gynnar Chris Clements wedi sicrhau trydydd colled yn olynnol i Gasnewydd ar ddechrau'r tymor yn yr Ail Adran.

Sgoriodd chwaraewr canol cae Mansfield o du mewn i'r cwrt cosbi wedi dau funud o chwarae.

Gallai'r sgor wedi bod llawer gwaeth i ddynion Justin Edinburgh, wrth i Mansfield fethu sawl cyfle yn y gêm.

Peniodd Ollie palmer dros y trawst gyda'r gôl gyfan i anelu ato, un o nifer o gyfleoedd i'r tîm cartref nos Fawrth.