Abertawe yn arwyddo Fernández

Federico Fernández
Image caption Fe ddechreuodd Fernández bedair o gemau i'w wlad yng Nghwpan y Byd

Mae Abertawe wedi arwyddo'r amddiffynwr o'r Ariannin, Federico Fernández o glwb Napoli.

Yn ôl gwefan yr Elyrch, mae Fernández wedi cael ei arwyddo ar gytundeb pedair blynedd am ffi sydd heb ei datgelu, ond mae adroddiadau yn y wasg yn awgrymu ei fod wedi costio tua £8 miliwn.

Fe wnaeth y gŵr 25 oed basio prawf meddygol yn gynharach yn yr wythnos ac mae disgwyl iddo fod yn y garfan i wynebu Burnley ddydd Sadwrn.

Cafodd Abertawe ddechrau gwych i'r tymor wrth iddyn nhw guro Manchester United 2-1 yn Old Trafford.