Garddwr yn marw ar ôl iddo ddisgyn 20 troedfedd ar bigau

coed mr Davies Image copyright Wales News Service
Image caption Roedd Mr Davies yn torri canghennau coed yn ei ardd pan ddisgynodd

Mae garddwr oedd yn tocio coeden wedi marw ar ôl iddo syrthio ar ffens bigog tu allan i'w gartref ym Merthyr ddydd Llun.

Roedd Peter Davies, 67, yn torri canghennau oddi ar goeden yn ei ardd gefn pan ddisgynodd 20 troedfedd ar y pigau arian.

Brwydrodd parafeddygon i achub Mr Davies, ond bu farw o golli gwaed difrifol ar ôl iddo gael ei hedfan i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr.

Daeth ei gymydog, Mr Ken Clement o hyd iddo wedi ei anafu'n ddrwg a cheisiodd wneud popeth i'w achub cyn i'r parafeddygon gyrraedd.

'Byddwch yn ofalus'

Image copyright Wales News Service
Image caption Gwnaeth cymdogion a'r gwasanaethau brys bopeth yn eu gallu i achub Mr Davies

Dywedodd Mr Clement: "Gwelais ef ddefnyddio ysgol i fynd i fyny ochr y goeden a galwais arno i fod yn ofalus.

"Tua 20 munud yn ddiweddarach, mi ddes o hyd iddo wedi ei anafu'n ddrwg cyn galw'r gwasanaethau brys."

Ychwanegodd cymydog arall: "Mae yn ofnadwy a gwnaeth Mr Clement bopeth y gallai iddo nes i'r criw ambiwlans gyrraedd...

"Roeddynt wedi gweithio mor galed i geisio ei achub, ond roedd wedi colli cymaint o waed, na allai fod wedi goroesi."

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru fod dyn wedi marw'n sydyn tra'n garddio a bod yr achos yn cael ei drin fel "damwain drasig".