Adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg

Celtic Manor Image copyright Celtic Manor
Image caption Bydd arweinwyr byd, gan gynnwys yr Arlywydd Barack Obama, yn mynd i uwchgynhadledd Nato

Go brin fod angen atgoffa trigolion Caerdydd am uwchgynhadledd Nato sy'n cael ei chynnal yng ngwesty'r Celtic Manor ger Casnewydd ddechrau'r mis nesaf.

Yn ôl Dylan Iorwerth yn Golwg, mae'r cyfan yn debyg i'r adroddiadau am frenhinoedd Lloegr yn y Canol Oesoedd yn teithio o le i le a holl aelodau'r Llys yn eu dilyn, ac mae'r effaith ymarferol ar ganol Caerdydd yn sylweddol - ffyrdd ynghau am gwpwl o wythnosau, ysgolion yn methu agor, pobol yn siŵr o gadw draw, siopau'n colli busnes.

Mae hyn i gyd, fel y dywed Blog Menai, ar gyfer un noswaith o giniawa pan fydd y cynadleddwyr yn gwneud eu ffordd i barc Biwt yn y Brifddinas.

Ac mae gan y blogiwr argymhelliad: os ydi'r cynadleddwyr eisiau gadael y Celtic Manor mewn gwirionedd, mae yna goblyn o Toby's Carvery da yng Nghasnewydd.

Byddai'n rhad i'w rentu am y noson, yn syml i'w amddiffyn a byddai pawb yn cael llond bol o fwyd am £6.99 yr un - ac mi fyddai trigolion Caerdydd yn cael llonydd i fynd ymlaen efo'u busnes.

Byddai hynny'n sicr yn arbed y sefyllfa mae Dylan Iorwerth yn ei disgrifio, lle mae'r rhaid rhoi rhan helaeth o wlad dan warchae er mwyn i arweinwyr gael sgwrs.

Image caption Trafod dyfodol Cymru wedi'r refferendwm yn yr Alban

Yn ôl Vaughan Roderick ar ei flog, ymhen mis fe fyddwn yn gwybod ym mha wladwriaeth y byddwn yn byw ynddi yn y dyfodol.

A fydd Cymru yn parhau i fod yn rhan o Brydain fawr y Deyrnas Gyfunol neu'n rhan o wladwriaeth newydd Prydain fach yr UK?

Does fawr o sôn wedi bod, meddai, am y wladwriaeth fyddai'n bodoli yn sgil pleidlais 'ie' - gwaddol y deyrnas os mynnwch chi.

Does dim dwywaith y byddai Cymru a Lloegr yn gallu gweithredu fel gwladwriaeth gynaliadwy.

Fe weithiodd hi o'r blaen wedi'r cyfan, p'un ai oedd hynny er budd i Gymru ai peidio.

Fe fyddai Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ar y llaw arall yn gyfuniad cwbwl newydd ac yn un rhyfedd ar y naw.

Yn ôl Tomos Livinstone ar wefan Cymru Fyw, ar 23 Medi bydd Carwyn Jones yn codi ar ei draed yn y Senedd i gynnig ei ddadansoddiad o oblygiadau'r refferendwm i bobol Cymru.

Beth fydd gan y Prif Weinidog i ddweud? Gallwn faddau iddo, efallai, os taw edrych ar ddalen wag o bapur yw ei hanes hyd yn hyn.

Y gwir amdani, yn ôl Tomos, yw nad oes gan fawr o neb syniad clir o sut y byddai pleidlais 'Ie' yn y refferendwm yn effeithio ar weddill Ynysoedd Prydain.

Ac fel y rhybuddia Vaughan, nid ar chwarae bach mae datgymalu gwladwriaethau ac mae unrhyw un sy'n meddwl na fyddai ymadawiad yr Alban yn golygu fawr o newid i weddill y deyrnas o bosib yn twyllo ei hun.

Image caption Mae nifer o ŵyliau wedi cael eu cynnal yng Nghymru dros yr haf

Ond tra bo arweinwyr y byd yn paratoi i giniawa yng Nghaerdydd, ac arweinwyr Prydain yn paratoi ar gyfer Prydain newydd, yn ôl erthygl olygyddol Golwg, mae'n debyg mai mwynhau ein hunain mae'r rhan fwyaf ohonon ni'r Cymru'n ei wneud yr haf hwn.

Daeth 600 o bobl i Ben Llŷn ar gyfer Gŵyl Taran Tudweiliog, mae disgwyl 6000 yng Ngŵyl Gopr Amlwch, ac mae Gŵyl Crug Mawr yn Aberteifi yn mynd o nerth i nerth, fel mae nifer o ŵyliau eraill ledled Cymru.

Tra bo cysgod y Cyfrifiad yn dal i bigo a phoenydio, hyfryd o galonogol meddai Golwg yw gweld y bwrlwm yma ar waith mewn sawl cornel o Gymru dros benwythnos Gŵyl y Banc.

A hynny heb hyd yn oed sôn am gau unrhyw ffordd am wythnosau o flaen llaw.

Mae adolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg yn cael ei ddarlledu ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru ychydig cyn saith o'r gloch pob bore Gwener.