Merched Cymru 0-4 Merched Lloegr

Gol Karen Carney
Image caption Aeth cic rydd Karen Carney dros ben pawb ac i'r rhwyd i roi'r fantais i Loegr

Merched Cymru 0-4 Merched Lloegr

Roedd pwynt yn ddigon i dîm Merched Lloegr gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yng Nghanada y flwyddyn nesaf, felly roedd y pwysau i gyd ar dîm Jess Fishlock, oedd hefyd angen pwynt i gadw'u gobeithion o fynd i'r gemau ail gyfle yn fyw.

Yr ymwelwyr i Stadiwm Dinas Caerdydd aeth ar y blaen wedi chwarter awr, a hynny mewn modd creulon braidd i Gymru.

Wrth i gic rydd Karen Carney grymanu i mewn i'r cwrt cosbi, fe aeth golwr Cymru amdani gydag Eniola Aluko, ond methodd y naill na'r llall i gael cyffyrddiad ac fe aeth y bêl i gefn y rhwyd.

Roedd chwarae Cymru'n galonogol, ond roedd prinder cyfleoedd clir yn profi'n gostus.

Roedd ail gôl Lloegr yn berl. Derbyniodd Aluko dafliad chwe munud cyn yr egwyl cyn troi a thanio foli wych heibio i Nicola Davies yn y gôl i Gymru.

Ac roedd y gêm ar ben i bob pwrpas cyn yr egwyl wrth i amddiffyn Cymru chwalu'n llwyr.

Laura Basset ychwanegodd y drydedd gôl i Loegr gyda pheniad, cyn i Lianne Sanderson sgorio'r bedwaredd - eto gyda'i phen - o fewn dau funud arall i adael Merched Cymru 4-0 ar ei hôl hi ar yr hanner.

Gan y gallai gwahaniaeth goliau fod yn bwysig yn ymdrech Cymru gyrraedd y gemau ail gyfle, roedd angen perfformiad dewr gan y Cymru yn yr ail hanner.

Image copyright Getty Images
Image caption Chwaraewyr Lloegr yn dathlu cyrraedd Cwpan y Byd wrth i Laura Bassett sgorio'r drydedd

Daeth dau gyfle i Sarah Wiltshire wedi tua awr - fe daniodd ergyd o bell i dynnu arbediad gan Karen Bardsley, ac yna, yn dilyn pas lac gan amddiffyn Lloegr, aeth ei ergyd o ongl fain i'r rhwyd ochr.

Ond fe ddylai Lloegr wedi ymestyn ei mantais pan aeth ergyd wedi 65 munud oddi ar ddwylo golwr Cymru cyn adlamu i droed Carney. Roedd y cyfle'n ymddangos yn hawdd ond fe darodd y postyn gyda'i chynnig.

Mae gobeithion Fishlock a gweddill y tîm o gyrraedd Canada bellach yn edrych ar chwal gan eu bod angen curo'r gêm nesaf a gobeithio am gyfres o ganlyniadau eraill fydd yn gweithio o'u plaid.

Straeon perthnasol