Pan oedd 'y byd i gyd yn Tiger Bay'

Carnifal Tre-biwt 1993 Image copyright Simon Campbell
Image caption Carnifal Tre-biwt 1993

Gyda strydoedd Tre-biwt yn dawnsio eto eleni i guriad lliwgar ei charnifal ar ôl bwlch o 16 mlynedd, Neil Sinclair sy'n egluro sut daeth yr ardal lle cafodd ei eni a'i fagu ger dociau Caerdydd yn gartref i gymuned amlddiwylliant cyntaf ac enwocaf Cymru:

Tua 1811, pentref bach oedd Caerdydd ger Caerffili gyda llai na 2,000 o bobl yn byw ynddo. Ond yn y 1830au cynnar, fe benderfynodd Ardalydd Bute, John Crichton Suart, adeiladu dociau mawr yno.

Ar ôl y Gwyddelod, y bobl gyntaf i gyrraedd a setlo yma oedd morwyr Tsieineaidd. Yn fuan, fe gyrhaeddodd pobl o bedwar ban byd ar eu holau. Mewn gwirionedd, fe allech chi weld y byd cyfan o fewn un filltir sgwâr yn yr hen Fae Teigr.

Y Gymraeg yn Sgwâr Loudoun

Ar droad yr Ugeinfed Ganrif, roedd llawer o bobl yn ein cymuned ni yn siarad mwy na 57 iaith wahanol ar ein strydoedd, gan gynnwys pobl oedd yn siarad Cymraeg. Un ohonyn nhw oedd Helen Margaret Lewis, mam fy nhad er enghraifft. A bu farw Blodwen Glascoe, y siaradwraig Cymraeg olaf o Sgwâr Loudoun, fwy na deng mlynedd yn ôl.

Ar gyfer Cymry Cymraeg yn wir, roedd pedair eglwys yn yr ardal. Fe gafodd y Parchedig Maxwell Evans ei eni yn Sgwâr Loudoun hefyd ar ôl dechrau'r ugeinfed ganrif. Roedd a'i deulu yn aelod o gapel yn y sgwâr o'r enw Bethania. Fe ddywedodd e wrtha i nad oedd e'n siarad Saesneg o gwbl tra'i fod e'n byw yn y Sgwâr tan oedd e'n 11 oed! Mae'n debyg bod pobl wedi anghofio'r hanes 'ma.

Yn anffodus, bu farw'r iaith gyda'i phobl fel y gwnaeth llawer o ieithoedd eraill. Dim ond Saesneg, Arabeg a Somalieg sy'n dal i gael eu siarad ar y strydoedd heddiw.

Image caption Plant Arabaidd ger eu mosg dros dro yn Nhre-biwt wedi'r bomio yn 1942

Terfysgoedd

Wrth gwrs, yr adeg honno doedd dim croeso cynnes ymhobman yn y pentref i fewnfudwyr bob amser. Pan geisiodd y Tsieineaid symud o Fae Teigr i fyw y tu allan er enghraifft, cafwyd gwrthwynebiadau mawr, ac yn 1911 fe gafodd y Tsieineaid eu gyrru o'u cartrefi yn ystod y terfysgoedd yn eu herbyn a'u gorfodi nôl i Fae Teigr.

Sam On Yen, tŷ bwyta enwog Mr Wing ar Stryd Bute oedd y tŷ bwyta Tsieineaidd cyntaf yng Nghymru!

Yn anffodus, fe ddigwyddodd yr un peth hefyd yn erbyn pobl Affro-Caribïaidd, Affricanaidd, Affro-Celtaidd a phobl croenddu eraill. Fe ymosododd mil o ddynion gwyn ar gartref rhieni fy fam yn Grangetown yn ystod y terfysg hiliol yn 1919. Dyna pam y prynodd ei thad dŷ bychan iddi ym Mae Teigr ble amddiffynnodd y bobl i gyd eu hunain yn erbyn y terfysgwyr.

Cytgord o fewn y gymuned

Ond y tu mewn i Fae Teigr doedd y problemau hiliol 'ma ddim yn bodoli. A dweud y gwir, cymuned o forwyr a gweithwyr dociau oedd hi ond, er hynny, nid oedd yn berffaith. Fe gawson ni ein problemau ni fel unrhyw gymuned arall o weithwyr. Ond, ar y cyfan, roedd yn lle da iawn, lle ardderchog i blant gael eu magu.

Image copyright Elin Dawes
Image caption Mae'r cerflun yma ym Mae Caerdydd yn deyrnged i'r rhai fewnfudodd yno

Cymdeithas go iawn oedd Bae Teigr o bobl â chefndiroedd gwahanol oedd yn byw gyda'i gilydd. Man lle gallai pobl o bob lliw a llun fyw gyda'i gilydd mewn cytgord ethnig ac heb drafferth ethnig rhwng ei phobl wahanol - sef pobl Groegaidd, Sbaenaidd, Portiwgeaidd, Norwyaidd, Arabaidd, Indiaidd, Somalaidd ac ati yn ogystal â phobl Affro-Caribïaidd ac Affricanaidd yn gyffredinol.

Er bod morwyr o bedwar ban byd yn cael eu croesawu'n gynnes fan hyn, ar y llaw arall, roedd pobl uwchben y rheilffordd yng Nghaerdydd y tu allan i'r gymuned yn meddwl mai lle ofnadwy oedd e. Ond dylai pobl Caerdydd a phobl Cymru ddim anghofio bod llawer o forwyr du ac Affro-Celtaidd o Fae Teigr a'r dociau'n cael eu lladd ar eu rhan nhw yn y ddau ryfel byd.

Cyffro'r tafarndai

Flynyddoedd yn ôl, yn ogystal â'r Mosg Moslemaidd cyntaf yng Nghymru a lleoedd o addoliad eraill yn y gymuned roedd mwy na 90 o dafarndai gwahanol yn yr ardal.

Image caption Clwb nos The Haven yn ardal dociau Caerdydd

Roedd tafarn ar bob cornel yn y dyddiau hynny. Ond heddiw does dim un o gwbl ym Mae Teigr. I lawr y dociau dim ond dyrnaid sydd yma heddiw, felly dydy'r ardal ddim mor gyffrous ag y byddai pan oedd lleoedd fel The Adelphi, The Freemasons, The Cornish Mount a'r Westgate mewn bodolaeth, heb sôn am y clybiau nos: The North Star, The Casablanca, The Top Floor Club, The Haven, The Casino, The Colony, The Stork Club ac y blaen.

Ac ar ôl yr amserau da, roedd y Bombay, tŷ bwyta Indiaidd Nessar Ali, y cyntaf yng Nghymru, yn lle i fynd i fwyta.

Image caption Stryd yn Tiger Bay

Cymuned groesawus

Yn flaenaf oll, cymuned amlddiwylliannol gynharaf Cymru oedd Bae Teigr ble ges i 'ngeni. A dweud y gwir, 'dw i'n ymfalchïo fy mod wedi cael fy magu yn y lle unigryw yma. Mae'r gymuned yn hynod o groesawus ac mae'n lle rhyfeddol, yn enwedig i fewnfudwyr i Gymru.

Mae Neil Sinclair yn gydolygydd cylchgrawn Voice of the Tiger ac yn awdur nifer o lyfrau gan gynnwys The Tiger Bay Story; The Cardiff Bay Experience ac Endangered Tiger.Mae'r erthygl hon yn addasiad o ddarn a ysgrifennodd yn wreiddiol yn 2010 i wefan Hanes BBC Cymru.

Mae oriel luniau o Garnifal Tre-biwt dros y blynyddoedd wedi ei chyhoeddi yn adran Gylchgrawn Cymru Fyw.

Hefyd ar y BBC