Donaldson yn arwain y ffordd

Y Cymro Jamie Donaldson sydd ar y blaen hanner ffordd drwy Bencampwriaeth Meistri'r Weriniaeth Siec yn Prague.

Roedd ei rownd gyntaf o 66 yn ddigon i wneud yn siŵr fod y 69 a gafodd ar yr ail ddiwrnod yn cadw ei le ar frig y tabl.

Mae e nawr un ergyd ar y blaen - y Ffrancwr Grégory Bourdy sydd yn yr ail safle.

Ar hyn o bryd mae Donaldson yn hawlio'r wythfed lle allan o'r naw sy'n cael eu penderfynu ar sail perfformiad ar gyfer tîm Ewrop yn Nghwpan Ryder yn Gleneagles ym mis Medi.

Er mwyn gwneud yn siŵr o'i le mae angen ennill cyfanswm o €30,000 yn y twrnamaint yma a'r un sy'n cael ei gynnal yn yr Eidal yr wythnos nesaf.

Byddai gorffen yn gyntaf yn Prague yn ei alluogi i wneud hyn yn hawdd, gan mai'r wobr am hynny yw €166,660.

Yn siarad gyda Sky Sports ar ôl y rownd ddiweddaraf am ei obeithion o gyrraedd Cwpan Ryder, dywedodd Donaldson: "Mae e yna.

"Mae e wedi bod yna ers sbel ond mae hon yn un o'r wythnosau yna lle ry'ch chi allan yn chwarae ac yn chwarae i eithaf eich gallu.

"Rhaid i chi wneud cymaint o'r byrdis â sy'n bosib a cheisio ennill y gystadleuaeth."

Straeon perthnasol