Mackay: Rhagor o honiadau

Malky Mackay Image copyright PA
Image caption Fe gafodd Malky Mackay ei ddiswyddo gan Gaerdydd ym mis Rhagfyr 2013

Mae Malky Mackay yn wynebu rhagor o honiadau am negeseuon testun rhyngddo ef ac Iain Moody pan oedd y ddau yn gweithio i glwb pêl-droed Caerdydd.

Mae Mackay eisoes wedi ymddiheuro am gynnwys rhai negeseuon, gan ddweud ei fod yn derbyn bod eu cynnwys yn "annerbyniol" ac "anaddas".

Ond fore Sadwrn, fe honodd papur newydd y Daily Mail bod rhagor o negeseuon sarhaus wedi eu hanfon.

Yn un ohonynt, mae'n ymddangos fod Mackay wedi cyfeirio at berchennog Caerdydd, Vincent Tan fel "chink".

Mae'r papur yn honni i'r neges gael ei hanfon gan Mackay at Moody ar Fehefin 5 y llynedd, pan oedd o'n ceisio arwyddo chwaraewr i'r clwb.

Y Mail oedd yn gyfrifol am gyhoeddi'r honiadau gwreiddiol am Mackay - gan achosi iddo golli ei le yn y ras i fod yn rheolwr ar Crystal Palace.

Fe wnaeth Iain Moody ymddiswyddo o'i rôl yn Crystal Palace ddydd Iau, yn dilyn yr honiadau.

Roedd y ddau yn cyd-weithio yng Nghaerdydd, ond fe gafodd Moody ei ddiswyddo ym mis Hydref y llynedd, a chollodd Mackay ei swydd yn fuan wedi hynny.

Straeon perthnasol