Abertawe 1-0 Burnley

Gôl Dyer Image copyright Getty Images

Dwy gêm, a dwy fuddugoliaeth yw hanes Abertawe yn yr Uwchgynghrair y tymor hwn, hyd yn hyn.

Fe lwyddodd yr Elyrch i drechu Burnley - sydd newydd eu dyrchafu o'r Bencampwriaeth.

Fe sgoriodd Nathan Dyer unig gôl y gêm wedi 23 munud.

Bu ond y dim i Burnley a tharo'n ôl, gyda Lukas Jutkiewicz a David Jones bron â sgorio yn yr ail hanner.

Ond fe ddeliodd Abertawe â'r pwysau, ac wedi iddyn nhw guro Manchester United wythnos yn ôl, mae'r Elyrch ar frig yr Uwchgynghrair, gyda Chelsea'n gwmni.

Doedd chwaraewyr newydd Abertawe, Federico Fernandez a Tom Carroll, ddim yn rhan o garfan Garry Monk.

Mae'n debyg iawn y bydd y capten, Ashley Williams yn hapusach na neb - roedd y fuddugoliaeth yn ffordd dda i ddathlu ei ben-blwydd yn 30 oed.