Wolves 1-0 Caerdydd

Mark Hudson Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Roedd rhwystredigaeth Mark Hudson yn amlwg

Colli oedd hanes Caerdydd yn erbyn Wolves yn y Bencampwriaeth b'nawn Sadwrn.

Roedd y gêm yn ddi-sgôr nes y munudau olaf, pan darodd Mark Hudson y bêl i'w rwyd ei hun.

Bu ond y dim i Gaerdydd sgorio ar ddechrau'r gêm, wrth i Bakary Sako daro'r postyn o gic gornel, ac fe fethodd Sean Morrison o drwch blewyn.

Daeth cyfle ym munudau ola'r gêm, hefyd, ond cafodd ymgais Kenwyne Jones ei harbed gan Carl Ikeme.

Yna, cafodd ergyd Peter Whittigham ei harbed, cyn i Hudson daro'r bêl heibio David Marshall.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Caerdydd yn llithro i'r wythfed safle yn y Bencampwriaeth.