Mwy o fedalau i Davies a Duke

Davies a Duke

Mae Aled Sion Davies wedi cipio ei ail fedal aur ym Mhencampwriaeth Ewropeaidd yr IPC yn Abertawe.

Wedi iddo ddod yn fuddugol yn y gystadleuaeth taflu pwysau F42 ddydd Iau, mae o wedi ennill y gystadleuaeth disgen yn yr un categori.

Yng nghategori F41, fe ddaeth Kyron Duke yn ail am daflu pwysau.

Dyma ail fedal arian Duke, mae ganddo un yn barod wedi iddo ddod yn ail yng nghystadleuaeth y waywffon ddydd Mercher.

Straeon perthnasol