Jihadwyr: 'Angen profion llymach'

Reyaad Khan, Nasser Muthana ac Abdul Rakib Amin Image copyright Reuters
Image caption Fe ymddangosodd Reyaad Khan (chwith) a Nasser Muthana (canol) mewn fideo yn hybu Jihadaeth

Mae Aelod Seneddol De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty wedi galw am brofion llymach i rwystro Moslemiaid wedi eu radicaleiddio rhag gadael Prydain.

Yn ôl Mr Doughty - oedd yn siarad ar raglen Sunday Supplement ar BBC Radio Wales - dylid ystyried deddf i dargedu rhai sy'n "paratoi" Moslemiaid ifanc i radicaleiddio.

Fe ddywedodd y Swyddfa Gartref eu bod nhw'n dal ac yn holi rhai sy'n cael eu hamau o ymwneud â therfysgaeth.

Mae tri dyn o Gaerdydd wedi honni eu bod nhw'n rhan o sefydliad ISIS, neu IS.

Mae'n debyg fod Nasser Muthana, 20, ei frawd Aseel, 17 a'u ffrind Reyaad Khan, 20, wedi ymuno â Jihadwyr yn Syria.

Fis Mehefin fe ymddangosodd Nasser Muthana a Mr Khan mewn fideo yn annog Moslemiaid i ymuno ag ISIS, sydd erbyn hyn yn cael ei alw'n IS.

Mewn sgwrs ar-lein gyda BBC Cymru, fe ddywedodd Aseel Muthana ei fod yn barod i farw ar ran yr ymgyrch.

Image copyright Family and BBC
Image caption Mae'n debyg fod Aseel Muthana (chwith) a'i frawd mawr Nasser (dde) yn Syria

Straeon perthnasol