Beiciwr wedi'i anafu yn yr Wyddgrug

Mae beiciwr wedi dioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad â char yn yr Wyddgrug.

Yn ôl y Gwasanaeth Ambiwlans fe ddigwyddodd y ddamwain ar Stryd Wrecsam am 12:50 ddydd Sul.

Cafodd dyn yn ei 70au ei gludo i Ysbyty Iarlles Caer i dderbyn triniaeth.

Mi fydd Heddlu'r Gogledd yn cynnal ymchwiliad yn y man.