Gwrthdrawiad: Anafu tri cherddwr yng Nghaerllion

Heol Ponthir Image copyright Google
Image caption Roedd y ddamwain yn Heol Ponthir, Caerllion nos Sadwrn

Mae dau ddyn a menyw wedi cael eu hanafu'n ddifrifol ar ôl cael eu taro gan gar.

Fe wnaeth gyrrwr y car ffoi cyn i'r heddlu gyrraedd.

Cafodd y dynion, 79 a 63 oed, a'r fenyw 71 oed eu hanafu yn Heol Ponthir, Caerllion nos Sadwrn ar ôl gwrthdrawiad â Vauxhall Corsa aur.

Credir bod y gyrrwr yn ddyn yn ei 20au.

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.