Safleoedd hyfforddi Cwpan y Byd

Stadiwm y Mileniwm Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Bydd Cymru yn chwarae eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd 2015 yn Stadiwm y Mileniwm, ar Fedi 20.

Mae'r Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi enwau'r ddau safle hyfforddi bydd y tîm yn eu defnyddio wrth gystadlu yng Nghwpan y Byd 2015.

Lloegr sy'n gyfrifol am drefnu a chynnal y gystadleuaeth ac mae 41 o safleoedd hyfforddi wedi eu dewis ar gyfer yr 20 gwlad fydd yn cystadlu.

Bydd Cymru yn defnyddio cyfleusterau yng ngwesty'r Vale yn Hensol, Bro Morgannwg a safle hyfforddi Clwb Rygbi y Gwyddelod yn Llundain, yn Hazelwood, Sunbury on Thames.

Bydd Cymru yn defnyddio'r ddau safle wrth iddynt baratoi ar gyfer eu gemau yng Ngrŵp Pedwar.

Dywedodd Warren Gatland, hyfforddwr Cymru: "Mae dewis y safleoedd hyfforddi yn hynod o bwysig ar gyfer paratoadau'r garfan, ac mae'r ddau safle wedi creu cryn argraff arnom."

Hefyd wedi eu rhestru ymhlith 41 o safleoedd sydd wedi eu dewis fel safleoedd hyfforddi ar gyfer yr 20 gwlad mae Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, prifysgol Abertawe a'r Celtic Manor.

Fe fydd wyth o'r gemau yng Nghystadleuaeth Cwpan y Byd yn cael eu cynnal yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd, gan gynnwys dwy gêm o'r rowndiau go gynderfynol.

Bydd Cymru yn chwarae eu gêm gyntaf yn y Stadiwm y Mileniwm ar Fedi 20. Byddant yn wynebu unai Rwsia neu Uruguay - bydd y ddau dîm yn wynebu ei gilydd dros ddau gymal cyn y gystadleuaeth go iawn er mwyn sicrhau eu lle yn yr 20 olaf.

Fe fydd Seland Newydd, Awstralia, Iwerddon, Ffrainc, Gerogia a Chanada hefyd yn chwarae yn Stadiwm y Milewniwm yn ystod y gystadleuaeth.