Criced dros Gymru?

Greg Thomas, Robert Croft a Simon Jones - dyna i chi rai o'r Cymry sydd wedi cyrraedd uchelfannau'r byd criced - ond yr unig fodd iddyn nhw wneud hynny ar lwyfan rhyngwladol oedd trwy gynrychioli Lloegr.

Wrth i Loegr baratoi i chwarae gem 'gartref' yn erbyn India yn Stadiwm SWALEC, Caerdydd ar Awst 27, ydi hi'n bryd i Gymru gael tîm cenedlaethol ei hun?

Mae Matthew Ford o Gaerdydd yn arwain ymgyrch am well statws i'r gamp yng Nghymru. Mi fuodd BBC Cymru Fyw yn sgwrsio efo fo am ei weledigaeth:

Image caption Robert Croft a Simon Jones, y Cymry olaf i chware criced rhyngwladol dros Loegr

Beth ydi dy asesiad di o griced yng Nghymru ar hyn o bryd?

"Mae llawer o bobl yn meddwl mai rygbi neu bêl-droed oedd y gêm tîm gyntaf i'w chwarae yng Nghymru ond roedd criced yn cael ei chwarae yma nôl yn y ddeunawfed ganrif. Ble chwaraeodd tim rygbi Cymru eu gem ryngwladol gynta'? Wel ar faes criced Abertawe! Mae'n wir dweud i glwb pêl-droed Caerdydd gael ei sefydlu er mwyn i'r cricedwyr gadw'n ffit yn ystod misoedd y gaeaf!

Er mai rygbi a phêl-droed sy'n teyrnasu erbyn hyn mae criced yn parhau i fod yn gêm boblogaidd iawn yma. Mae yna glybiau a chwaraewyr ym mhob cwr o Gymru, ac felly mae criced ar lefel amatur yng Nghymru yn gymharol iach.

Ond does gan Gymru ddim statws rhyngwladol fel sydd gan yr Alban, Iwerddon a hyd yn oed ynysoedd Guernsey, Jersey ac Ynys Manaw. Oherwydd hynny mae cricedwyr disglair o Gymru wedi gorfod cynrychioli Lloegr er mwyn chwarae ar y llwyfan rhyngwladol. Bowliwr Morgannwg, Simon Jones, oedd y chwaraewr olaf o Gymru i wneud hynny yn 2005."

Image copyright Getty Images
Image caption Simon Jones yn cipio wiced Michael Clarke o Awstralia yng nghyfres y Lludw yn 2005

Yn rhyngwladol, 'dyn ni yn cael ein cynrychioli gan dîm o'r enw Lloegr. Maen nhw yn chwarae gyda'r tri llew ar eu brest a'r faner San Siôr yn hedfan a'r anthem genedlaethol answyddogol Saesneg Jerusalem yw'r gân o ddewis cyn dechrau'r gemau. Mae hyn yn beth da ar gyfer Lloegr. Mae'n wych bod ganddyn nhw dîm criced sy'n eu cynrychioli mor effeithiol. Ond dydi Cymru ddim yn cael ei gynrychioli o gwbl gan y tîm yma.

Mae rhaid ystyried hyn yn fethiant mawr i griced yng Nghymru. Mae cystadleuaeth Cwpan y Byd yn cael ei chynnal y flwyddyn nesaf. Bydd Iwerddon, yr Alban a Lloegr yn cymryd rhan ond nid Cymru.

Oes yna ddigon o gefnogaeth ariannol i'r gêm yng Nghymru?

"Yn syml nagoes. Pe bai'r Cyngor Criced Rhyngwladol (ICC) yn cydnabod Cymru fel tîm cenedlaethol yna byddai yna ragor o ffynhonellau ariannu ar gael. Mae sawl ffynhonnell ar gael ar gyfer buddsoddiad. Mae timau yn cael eu hariannu yn sylfaenol trwy fod yn aelodau o'r ICC ond mae yna hefyd lawer o raglenni datblygu, fel y Rhaglen Perfformiad Uwch a'r Bigger Better Global Game.

Mae timau Iwerddon a'r Alban newydd dderbyn $1miliwn gan yr ICC am gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd. Mae 'na wersylloedd criced hefyd wedi eu trefnu ar eu cyfer yn Awstralia a Seland Newydd.

Gall gwerthu hawliau teledu hefyd yn arwyddocaol wrth chwarae'r timau mwy. Er enghraifft fe brynodd Sky Sports yr hawliau i ddangos y gêm rhwng Iwerddon a Lloegr yn Nulyn. Byddai tîm o Gymru hefyd yn cael noddwyr fel unrhyw dîm arall."

Ydi hi'n beth da bod Caerdydd yn cynnal gemau undydd rhyngwladol a gemau prawf?

"Rwy'n credu ei fod yn wych a byddai'n well byth petai na ragor o gemau rhyngwladol yn cael eu cynnal yno yn hytrach na dim ond un y flwyddyn. Y ffordd o gyflawni hynny, wrth gwrs, yw i Gymru gael tîm ei hun.

Gan bod gan Iwerddon a'r Alban eu timau eu hunain mae mwy o gemau rhyngwladol yn cael eu chwarae yn Nulyn a Chaeredin nag sy'n cael eu chwarae yng Nghaerdydd. Mae hyn heb sôn am y nifer o gemau rhyngwladol eraill sy'n digwydd yn y gwledydd hynny drwy gydol yr haf, yn erbyn y gwrthwynebwyr eraill sydd ar gael.

Eleni, er enghraifft, mae Lloegr wedi chwarae'r un faint o gemau yn yr Alban ag yng Nghymru. Y gwahaniaeth yw oedd Lloegr yn chwarae yn erbyn Yr Alban, tra bydd Cymru yn cynnal gêm rhwng Lloegr ac India lle na fydd unrhyw chwaraewyr Cymreig yn cymryd rhan."

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Stadiwm SWALEC yn llwyfannu gem brawf 'gartref' Lloegr yn erbyn Sri Lanka yn 2011

Ydi hi'n ymarferol i Gymru sefydlu tîm cenedlaethol?

"Ydi. Mae fformat y gemau ugain pelawd 'Twenty20' wedi chwyldroi'r gêm felly mae hi'n adeg delfrydol i ni i gael tîm.

Mae'r gêm ugain pelawd yn fformat cyffrous sy'n ehangu apêl y gamp ac yn denu buddsoddiad newydd. Mae India, Pacistan a Bangladesh yn enwedig wedi gwirioni efo'r gêm ugain pelawd ac mae arian mawr bellach yn dechrau arllwys i mewn i'r gêm.

Ond y peth gwych ar gyfer y gwledydd criced llai adnabyddus yw bod y gemau byr yn cau'r bwlch rhyngddyn nhw a'r timau mawr. Mewn gêm brawf bum diwrnod byddai hi'n anodd i dimau llai ddal eu tîr ond mewn gêm ugain pelawd gall unrhwybeth ddigwydd.

Image copyright Getty Images
Image caption A fydd hon yn olygfa fwy cyfarwydd yn y dyfodol?Cymru yn herio (a curo) Lloegr yn 2002

Mae'r gemau ugain pelawd yn gyfle enfawr i wledydd fel Cymru oherwydd gallwn ragori yn y fformatau byrrach hyn. Mae angen i ni ymuno â'r gymuned griced ryngwladol a bod yn rhan o'r newid hwn yn awr, yn hytrach na chael ein gadael ar ôl unwaith eto."

Sut y gall Cymru sicrhau bod ei thalentau gorau yn gallu chwarae criced ar y lefel uchaf?

"Y ffordd i wneud hynny yw trwy gael tîm Cymru. Byddai rhai yn dadlau bod gan chwaraewyr Cymru'r cyfle yna eisoes drwy chwarae i Loegr a falle cael y cyfle i chwarae yng nghyfres enwog y Lludw neu yn ffeinal cwpan y byd. Ond mae hyn yn rhoi buddiannau llond llaw o bobl o flaen buddiannau ein cenedl gyfan.

Fydde ni ddim yn taflu ein tîm pêl-droed cenedlaethol o'r neilltu fel y gall talentau arbennig fel Gareth Bale chwarae dros Loegr yng Nghwpan y Byd. Ond dyma yw realiti criced yng Nghymru. Y nôd felly yw cael unarddeg o Gymry yn chwarae drwy'r amser o dan faner y Ddraig Goch. Bydd hyn yn gwella ansawdd criced yng Nghymru."

Image caption Dyfodol criced Cymru - Y Ddraig Goch neu'r Tri Llew?

Ydych chi'n cytuno gyda Matthew Ford neu ydych chi'n hapus efo'r drefn bresennol? Rhowch wybod i ni cymrufyw@bbc.co.uk