Port Vale 2-3 Caerdydd

Federico Macheda Image copyright Ben Evans/Huw Evans Agency

Mae Caerdydd wedi llwyddo i gyrraedd trydedd rownd cystadleuaeth Cwpan Capital One drwy drechu Port Vale oddi cartref.

Aeth Caerdydd ar y blaen ar ôl 25 munud gyda gôl gan Joe Ralls.

Tarodd Port Vale yn ôl yn fuan wedi hynny, gyda gôl gan Michael O'Connor.

Yn yr ail hanner, cymrodd Caerdydd y blaen unwaith eto, diolch i gôl gan Federico Macheda.

Sgoriodd Macheda eto wedi 79 munud, a hynny yn ei gêm gyntaf yn chwarae i'r Adar Gleision.

Ond tarodd Port Vale yn ôl ar ôl 90 munud, diolch i gôl gan Michael Brown, ond roedd hi'n rhy hwyr i newid y canlyniad, a Chaerdydd enillodd y gêm 3-2.

Port Vale: Neal, Yates, Dickinson, Brown, Robertson, McGivern, O'Connor (Moore - 70' ), Jennings (Lines - 71' ), Pope, Dodds (Williamson - 70' ), Daniel

Caerdydd: Moore, Barnum-Bobb, John, Ralls, Oshilaja, Torres Ruiz, Wolff Eikrem (Burgstaller - 73' ), Kim Bo-kyung (Harris - 61' ), Javi Guerra (Velikonja - 81' ), Macheda, Dikgacoi