Abertawe 1-0 Rotherham

Bafétimbi Gomis Image copyright Huw Evans Agency

Mae Abertawe wedi llwyddo i gyrraedd trydedd rownd cystadleuaeth Cwpan Capital One drwy drechu Rotherham.

Aeth Abertawe ar y blaen ar ôl 22 munud gyda gôl gan Bafétimbi Gomis, a honno y gyntaf iddo sgorio i'r Elyrch.

Ac er gwaethaf sawl cyfle i'r ddau dîm 1-0 oedd y sgôr ar ddiwedd y gêm.

Abertawe: Tremmel, Tiendalli, Richards, Fulton (Shelvey - 45' ), Fernández, Bartley, Carroll, Dyer, Gomis (Bony - 74' ), Montero, Sheehan (Sigurdsson - 59' )

Rotherham: Loach, Broadfoot (Brindley - 55' ), Arnason, Frecklington, Wood, Morgan, Tidser (Newton - 58' ), Pringle, Revell, Bowery, Sadler (Skarz - 71' )