Dwy ferch yn cael eu taflu yn erbyn creigiau

Tresilian Bay - llun gan Nigel Homer Image copyright Nigel Homer
Image caption Mae'r ddwy wedi cael anafiadau i'w cefn ar ôl cael eu taflu yn erbyn creigiau gan y tonnau.

Mae dwy ferch 12 oed yn cael triniaeth yn yr Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd ar ôl mynd i drafferthion yn y môr ym Mro Morgannwg nos Fawrth.

Mae'n debyg i un ferch gael ei sgubo i'r môr ym mae Tresilian yn Llanilltud Fawr, ar i'r llall fynd i'r môr i geisio ei helpu.

Mae'r ddwy wedi cael anafiadau i'w cefn ar ôl cael eu taflu yn erbyn creigiau gan y tonnau.

Roedd bachgen 12 oed wedi deialu 999 ar ffôn symudol am 7:50 pm.

Dywedodd David Hughes o Wylwyr y Glannau Abertawe bod grŵp o saith neu wyth o bobl ifanc ar y draethlin ac nid oedd unrhyw oedolion yn bresennol.

Cafodd y ddwy eu cludo mewn hofrennydd i'r ysbyty.