Achos Awema: Rheithgor allan

Naz Malik
Image caption Mae Naz Malik yn gwadu tri chyhuddiad o dwyll

Mae'r rheithgor yn achos y gŵr sydd wedi ei gyhuddo o dwyllo elusen ar gyfer lleiafrifoedd ethnig wedi cael eu hanfon allan i drafod eu dyfarniad.

Mae cyn bennaeth Awema Naz Malik, 65, yn gwadu tri chyhuddiad o dwyll sy'n ymwneud â thaliadau o dros £15,000.

Wrth grynhoi ddydd Mercher dywedodd y barnwr Peter Heywood fod yr achos wedi bod yn un anodd ei chrynhoi - a byddai'n well i'r rheithgor ddychwelyd yn y bore cyn dechrau trafod.

Mae'r erlyniad yn honni fod y diffynnydd wedi defnyddio dwy siec wedi eu harwyddo gwerth £12,000 i leihau ei ddyled bersonol.

Mae cyhuddiad arall yn ymwneud â chynllun taliadau yswiriant.

Mae Mr Malik yn mynnu fod yr arian wedi ei ddefnyddio i dalu am gostau dilys.

Straeon perthnasol