Gwrthdrawiad Caerllion: Arestio dyn

Heol Ponthir, Caerllion Image copyright Google
Image caption Roedd y ddamwain yn Heol Ponthir, Caerllion

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i wrthdrawiad ar Heol Ponthir, Caerllion nos Sadwrn wedi arestio dyn 20 oed mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Cafodd dau ddyn a dynes eu hanafu'n ddifrifol ar ôl cael eu taro gan gar Vauxhall Corsa aur.

Mae'r dynion, 79 a 63 oed, a'r fenyw 71 oed mewn cyflwr sefydlog gan dderbyn triniaeth yn Ysbyty Brenhinol Gwent.

Roedd gyrrwr y car a'r teithiwr wedi ffoi cyn i'r heddlu gyrraedd.

Arestio dyn lleol

Mae dyn 20 oed o Gaerllion wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi anafiadau difrifol drwy yrru'n beryglus, methu â stopio wedi gwrthdrawiad a methu â rhoi gwybod am wrthdrawiad. Mae'n cael ei gadw yn y ddalfa ar hyn o bryd.

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth gan dystion, ac yn enwedig unrhyw un welodd y Corsa'n cael ei yrru cyn y digwyddiad. Y gred yw bod y car yn cael ei yrru i gyfeiriad Ponthir o ganol tref Caerllion.

Gall unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu drwy gyfrwng eu llinell 101.

Straeon perthnasol