Cymro wedi marw yng Ngwlad Thai

Jay Davies
Image caption Roedd Jay Davies wedi bod yn teithio a gweithio yng Ngwlad Thai ers tair blynedd

Mae dyn ifanc o Sir Gâr wedi marw yng Ngwlad Thai.

Roedd Jack Davies, oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Jay, yn 21 oed ac wedi bod yn teithio a gweithio yn y wlad ers tair blynedd.

Bu farw ar ynys Ko Phi Phi ger Phuket, ac mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i achos ei farwolaeth.

Mewn datganiad i'r Llanelli Star, dywedodd ei rieni Christine a Jonathan Davies: "Roedd yn fachgen hyfryd ac roedd pawb yn ei garu e."

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor eu bod nhw'n rhoi cymorth i'r teulu yn eu profedigaeth.