Heddlu gam yn nes at adnabod corff dynes coll

Microscope Image copyright Science Photo Library
Image caption Mae'r heddlu yn gobeithio dod o hyd i samplau DNA

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gobeithio eu bod gam yn nes at ddatrys dirgelwch dynes o Fochdre, ger Bae Colwyn, wnaeth ddiflannu yn 1978.

Dywedodd yr heddlu fod posibilrwydd fod corff Priscilla Berry, 39 oed, wedi cael ei ddarganfod oddi ar arfordir Llandudno yn 1980.

Ond oherwydd ei gyflwr doedd dim modd adnabod y corff yn ffurfiol.

Yn ddiweddar fe wnaeth yr heddlu lansio apêl gyhoeddus er mwyn dod o hyd i aelodau teulu Mrs Berry - ac i gael samplau DNA.

Tri aelod

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Don Kenyon, sy'n arwain yr ymchwiliad, fod yr heddlu wedi dod i gysylltiad â thri aelod o'r teulu.

"Dros y dyddiau a'r wythnosau nesa byddwn yn ceisio cael samplau DNA a'u cymharu â DNA gweddillion y corff y cafwyd hyd iddo yn y môr.

"Fe fydd llawer yn dibynnu a'r safon y DNA yn y gweddillion."

Dywedodd fod y cyhoeddusrwydd wedi achosi ychydig o loes i aelodau'r teulu ac nad oedden nhw am wneud unrhyw sylw.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.