Arestio dyn wedi ymosodiad yn y Sgeti

Mae dyn 22 mlwydd oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod.

Daw hyn ar ôl i ddyn 46 ddioddef anafiadau mewn ymosodiad mewn eiddo yn Briar Dene am tua 20:30 nos Iau, Awst 28.

Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu drwy ffonio 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.