Gwarchae Abertawe: cyhuddo dyn

twr meridian, abertawe
Image caption Fe ddigwyddodd y gwarchae yn Nhŵr Meridian yn Abertawe ar ddydd Gwener, 8fed o Awst.

Mae dyn 38 oed o Abertawe wedi cael ei gyhuddo o fod â dryll yn ei feddiant yn dilyn digwyddiad yn Nhŵr Meridian, Abertawe, yn gynharach yn y mis.

Roedd heddlu arfog wedi amgylchynnu'r tŵr ym marina Abertawe ar ddydd Gwener, 8fed o Awst, yn sgil y digwyddiad ym mwyty'r 'Grape and Olive' ar y llawr uchaf.

Y tŵr, sydd dros 300 troedfedd, yw adeilad uchaf Cymru.

Fe gafodd pobl oedd yn byw gerllaw eu symud o'u cartrefi.

Wedi gwarchae barodd ddwy awr, fe gafodd Lindsey Coffey o Bontlliw, Abertawe, ei daro â gwn taser a'i arestio.

Yn ddiweddarach, fe gafodd ei gadw o dan y ddeddf iechyd meddwl.

Chafodd neb ei anafu'n ddifrifol yn y digwyddiad.

Image copyright Athena Pictures
Image caption Roedd rhaffau wedi cael eu gosod o amgylch y twr.

Mae'r dyn 38 oed wedi cael ei gyhuddo yn Llys ynadon Abertawe fore Sadwrn o fod â dryll yn ei feddiant gyda'r bwriad o godi ofn ac o garcharu ffug.

Mi fydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron, Abertawe ym mis Medi.