Fulham 1 - 1 Caerdydd

Fulham v Caerdydd
Image caption Mae Caerdydd rwan yn llithro i'r 9fed safle yn y Bencampwriaeth.

Cyfartal oedd hi rhwng Fulham a Chaerdydd yn y Bencampwriaeth

Roedd Fulham wedi mynd ar y blaen yn 20 munud cynta'r gêm.

Tim Hoogland beniodd y bêl i waelod cornel dde y gôl, gan sicrhau bod y tîm cartref ar y blaen ar hanner amser.

Ond yn fuan yn yr ail hanner, fe fachodd Kenwyne Jones ar gyfle i gicio'n syth i ganol y gôl gyda'i droed dde.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Caerdydd yn llithro i'r nawfed safle yn y Bencampwriaeth.