Abertawe 3 - 0 West Brom

Abertawe v West Brom Image copyright Getty Images
Image caption Dyma'r drydedd buddugoliaeth mewn rhes i'r Elyrch

Abertawe ar frig yr Uwchgynghrair dros dro ar ôl curo West Brom

Fe sgoriodd Nathan Dyer ddwywaith, y gyntaf o fewn dwy funud i ddechrau'r gêm.

Fe darodd Wayne Routledge gic lwyddiannus o beniad Craig Dawson i ddyblu sgôr yr Elyrch.

Roedd mwy o gyfleoedd i'r tîm cartref yn yr ail hanner ac fe lwyddodd Dyer eto gyda phas gan Sigurdsson wedi 70 munud.

Fe ddaeth buddugoliaeth Abertawe â dechrau addawol clwb West Bromich Albion yn yr Uwchgynghrair i ben.

Image caption Nathan Dyer oedd seren y sioe, yn sgorio dwy gôl dros yr Elyrch

Roedd trydedd buddugoliaeth mewn rhes Abertawe yn golygu eu bod ar frig tabl yr Uwchgynghrair am gyfnod.

Mae buddugoliaeth Chelsea o 6 gôl i 3 yn erbyn Everton yn eu gosod nhw erbyn hyn ar y brig ac Abertawe yn ail.

Dywedodd eu rheolwr, Garry Monk: "Mae hyn yn ddechrau da ond dyna'i gyd. Mae 'na dipyn o ffordd i fynd a thipyn mwy o waith i'w wneud, ond mae'n dda cael arferiad o ennill."