Llofruddiaeth Rhisga: cyhuddo dau

Rhisga Image copyright Google Maps
Image caption Cafodd yr Heddlu eu galw i Glôs Twmbarlwm yn Rhisga nos Fercher.

Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth Stephen Lambert, 35 oed, o Rhisga.

Bu farw Stephen ddydd Mercher, Awst 27ain, wedi iddo gael ei drywanu.

Mae dau ddyn lleol, un 28 oed ac un 33 oed, oedd wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r farwolaeth, wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth.

Fe fyddan nhw'n ymddangos o flaen Llys Ynadon Casnewydd fore Llun, Medi'r 1af.

Straeon perthnasol