Obama i ymweld ag ysgol tra yng Nghymru

Barack Obama Image copyright AFP
Image caption Mr Obama fydd Arlywydd cyntaf America i ymweld â Chymru tra'n ei swydd

Fe fydd Barack Obama yn ymweld ag ysgol ar ddiwrnod cyntaf ei ymweliad â Chymru ar gyfer uwch-gynhadledd Nato, yn ôl y Ty Gwyn.

Mr Obama fydd Arlywydd cyntaf America i ymweld â Chymru tra'n ei swydd, ac fe fydd o, ynghŷd â'r Prif Weinidog, David Cameron, yn cwrdd â disgyblion fore Iau.

Fe fydd y pâr yna'n ymuno â gweddill y 150 o bennaethiaid gwladol a gweinidogion am lun swyddogol yng nghwesty'r Celtic Manor yng Nghasnewydd, sy'n cynnal yr uwch-gynhadledd.

Dydd Gwener, fe fydd yr Arlywydd yn gwylio 22 o awyrennau o 9 o wledydd yn hedfan dros Gasnewydd tua 9 y bore.

Yn ymuno â thîm y Red Arrows fydd criwiau o'r Unol Daleithiau, Canada, Denmarc, Ffrainc, yr Almaen, Gwlad Pwyl, Portiwgal a'r Iseldiroedd.

Bydd modd eu gweld hefyd o Fae Caerdydd tua 8.30 fore Gwener.

Mae'r Ty Gwyn wedi cadarnhau y bydd yn aros yng Nghymru nos Fercher a Nos Iau cyn hedfan yn ôl i Washington ar ddiwedd y gynhadledd.

Bydd arweinwyr Nato yn trafod Affganistan ar eu diwrnod cyntaf, ac yna'n cael cyfarfod o'r Comisiwn Nato-Wcrain cyn diwedd y dydd gyda swper trafod yng Nghastell Caerdydd yn canolbwyntio ar sialensau diogelwch.

Bydd trafodaethau dydd Gwener yn cynnwys dyfodol Nato a'r cyswllt rhwng y gwledydd.

Straeon perthnasol