Mwy o gymorth caledi i fusnesau, yn ôl FSB Cymru

High street
Image caption Mae'r FSB am weld mwy o gymorth yn cael ei gynnig i fusnesau bach mewn trafferthion.

Dydy busnesau bychain sydd mewn trafferthion ariannol ddim yn cael digon o gymorth gan gynghorau lleol, yn ôl Ffederasiwn y Busnesau Bach.

Mae'r rhybudd yn dod yn sgil ffigyrau newydd sy'n dangos mai dim ond hanner cynghorau Cymru gynigodd gymorth ariannol o'u cronfa caledi dros y dair blynedd ddiwethaf.

Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn gallu cynnig cymorth o'u cronfa i helpu'r busnesau hynny sy'n wynebu argyfwng ariannol tymor byr ac a fyddai'n golygu colled i'r gymuned petai'r cwmni'n methu.

Mae ffigyrau, ddaeth i law Ffederasiwn y Busnesau Bach drwy'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, yn dangos nad oedd 11 o'r 22 o awdurdodau lleol wedi talu'r un geiniog o'r gronfa dros y dair blynedd ddiwethaf.

£804,000

Fe gafodd cyfanswm o £804,000 ei roi dros gyfnod o dair blynedd.

Un cyngor sydd wedi defnyddio'r pwerau yw Ceredigion, fu'n annog busnesau gafodd eu heffeithio gan stormydd garw y llynedd i geisio am nawdd.

Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, fe ddyfarnwyd arian nawdd o'r gronfa i 21 o fusnesau lleol, a dros y dair blynedd, nhw sydd wedi helpu'r nifer fwyaf o fusnesau (31).

Cyngor Castell Nedd Port Talbot oedd wedi dyfarnu'r symiau mwyaf o gymorth, ychydig o dan £350,000.

Ond ni wnaeth Sir Benfro, Abertawe, Rhondda Cynon Taf, Ynys Môn, Blaenau Gwent, Pen-y-bont, Gwynedd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Torfaen na Wrecsam gynnig yr un swm o gwbl dros yr un cyfnod.

'Gwneud gwahaniaeth mawr'

Yn ôl Cadeirydd uned bolisi yr FSB, Janet Jones: "Mae'r gronfa caledi yn rhywbeth y dylai pob awdurdod lleol fod yn ei gynnig. Mae'n nawdd benodol sydd wedi'i gynllunio i helpu busnesau lleol sy'n bwysig i'r gymuned ar adegau pan fo nhw fwyaf mewn angen.

"Fe fyddem yn galw ar yr awdurdodau lleol hynny sydd heb dalu allan o'r cynllun hwn i wneud mwy i hysbysebu'r gronfa galedi a'i gynnig o i helpu busnesau lleol sy'n eu haeddu, er budd y cymunedau mae nhw'n eu gwasanaethu."

Mae'r FSB am bwysleisio bod y gost i'r awdurdod lleol dipyn yn llai na'r symiau sy'n cael eu rhoi.

Meddai Rheolwr Polisi'r FSB, Dr Rachel Bowen: "Yn yr achosion lle mae nawdd caledi yn cael ei ddyfarnu, mae'r awdurdod lleol yn gallu hawlio 75% ohono'n ôl gan Lywodraeth Cymru, gan olygu mai dim ond 25% sy'n rhaid i gynghorau ei wario er mwyn diogelu dyfodol tymor hir y busnesau hynny sy'n gwneud gwahaniaeth mawr yn eu cymuned."

"O safbwynt Ceredigion, roedd y cyfanswm a ddyfarnwyd y llynedd yn llai na £2,000 i bob busnes, ond mae swm cymharol fychan fel hyn yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i fusnes bach sydd wedi dioddef colledion yn sgil tywydd eithafol."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion eu bod yn teimlo ei bod hi'n bwysig i gefnogi'r busnesau hynny gafodd eu taro gan y llifogydd arfordirol gan bod "y sir yn ddibynnol iawn ar y diwydiant ymwelwyr".

"Mae'n bwysig i'r sir bod pob busnes yn ffynnu, a phan mae digwyddiadau fel hyn yn cael effaith ariannol negyddol ar fusnesau penodol, mae'r cyngor yn ceisio'u gorau i'w cefnogi cymaint â phosib, ac un ffordd o wneud hynny ydi drwy wahodd ceisiadau ar gyfer Adran 49 o'r Gronfa Galedi."

Straeon perthnasol