Milwr yn cael ei saethu fel oedd yn derbyn rhybudd

Jamie Shadrake Image copyright MOD
Image caption Bu farw Jamie Shadrake ar ôl cael ei saethu ym mis Awst 2012.

Mae cwest wedi clywed bod milwr o Wrecsam wedi ei saethu yn Afghanistan wrth i rybudd gael ei basio i bennaeth y gwersyll.

Bu farw Jamie Shadrake, 20 oed, o Fataliwn 1af Gwarchodlu'r Grenadwyr, o'i anafiadau ar ôl cael ei saethu ym mis Awst 2012.

Clywodd y cwest yn Rhuthun gan swyddog ddywedodd ei fod yn gallu clywed yr ymosodiad yn dechrau wrth iddo gysylltu â'r gwersyll i'w rybuddio.

Mae disgwyl i'r gwrandawiad bara tri diwrnod.

'Milwr arbennig'

Cafodd Mr Shadrake ei saethu mewn ymosodiad yn ardal Nahr-e Saraj, Helmand, yn fuan wedi ei ben-blwydd yn 20 oed.

Wrth roi tystiolaeth, dywedodd yr Uwchgapten Piers Ashfield bod Mr Shadrake yn filwr arbennig.

Roedd Mr Shadrake wedi bod yn rhan o weithrediad rhagchwilio ynghlwm â Chwmni'r Frenhines er mwyn brwydro yn erbyn cadarnle'r Taliban.

Roedd y gwarchodluwr ar ddyletswydd mewn man archwilio o'r enw TCP 40 ar brynhawn 17 Awst, 2012 pan ddaeth y safle dan ymosodiad.

Dywedwyd wrth y cwest ei fod wedi cael sylw meddygol, ond bu farw o anafiadau i'w ben a'i frest.

Rhybudd ymosodiad

Dywedodd yr Uwchgapten Ashfield ei bod yn rhywbeth arferol i filwyr unigol reoli mannau archwilio yn ystod y dydd, ac yna'n dyblu i fyny ar gyfer y nos.

Ychwanegodd yr uwchgapten, a oedd yn gweithio mewn man archwilio arall yn y rhanbarth, wrth y cwest ei fod wedi derbyn gwybodaeth oddi wrth ddyn Afghan lleol fod ymosodiad yn bosib ar y man archwilio'r diwrnod hwnnw.

Meddai: "Wrth i mi yrru neges radio i'r pennaeth, gallwn glywed yr ymosodiad yn y cefndir."

Gofynnodd y crwner ar gyfer Dwyrain a Chanol Gogledd Cymru, John Gittins, wrth yr uwchgapten a fyddai gwarchodluwr Shadrake wedi clywed y rhybudd dros y radio,

Dywedodd yr uwchgapten Ashfield byddai'r neges rhybudd wedi gorfod cael ei throsglwyddo yn uniongyrchol i'r gwarchodluwr.

Mae disgwyl i wyth aelod o'r fyddin, gan gynnwys rhai o gymrodyr y gwarchodluwr Shadrake, roi tystiolaeth.