Cyhuddo dyn o ddynladdiad yng Nghaerffili

Irish Tymes, Caerffili Image copyright Google
Image caption Bu farw Jake Mark Sweeney yn dilyn digwyddiad tu allan i dafarn yr Irish Tymes yng Nghaerffili

Mae dyn 23 mlwydd oed wedi cael ei gyhuddo o ddynladdiad yng Nghaerffili

Cafodd y dyn ei arestio yn dilyn marwolaeth Jake Mark Sweeney, 26 mlwydd oed, ar ôl digwyddiad y tu allan i dafarn yr Irish Tymes ar Res yr Orsaf, Caerffili.

Mae'r dyn o Gaerffili wedi cael ei gadw yn y ddalfa, a bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun 8 Medi.

Mae dau ddyn arall, y ddau'n 21 oed o Gaerffili, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ysgarmes ac maent wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth dra bod ymholiadau'r heddlu'n parhau.