Yr Alban: Undeb neu Annibyniaeth?

Image caption Mae llygaid y byd ar Gaeredin wrth i'r refferendwm ar annibyniaeth yr Alban agosáu

Os ydych chi wedi ymweld â'r Alban dros yr wythnosau diwethaf, mi fyddai hi wedi bod yn anodd i chi osgoi'r dadlau brwd dros ddyfodol y wlad. Ar Medi 18 bydd yr Albanwyr yn pleidleisio unai dros annibyniaeth neu i aros yn rhan o'r Deyrnas Unedig.

Gyda llai na thair wythnos i fynd tan y refferendwm, fe aeth Elin James Jones i gwrdd â rhai o Gymry'r Alban i geisio cael gwell syniad os mai Ie neu Na fydd yn ennill y dydd:

'Angen am lais i'r Alban'

Wrth i mi deithio drwy rai o gymunedau'r Alban, mi ddaeth hi'n amlwg fod y dadleuon yn fyw ar lawr gwlad - yn y tafarndai, dros frecwast, yn y neuaddau cymuned. Dyma refferendwm sy'n tanio yn lleol.

Mi fues i'n rhannu sgwrs dros baned gyda Nerys Ann Jones, er enghraifft. Mae hi'n academydd sy' wedi ymgartrefu yn yr Alban ers rhai degawdau. Mae ei gŵr, Dauvit, yn Albanwr sy' bellach yn rhugl yn y Gymraeg ac ill dau wedi magu eu meibion i siarad yr iaith. Mae aelwyd 'Penrhiw' yn ynys o Gymreictod ar lethrau Dunblane, rhwng dinasoedd Caeredin a Glasgow.

Image caption Penrhiw - gardd o Gymreictod yn Dublane, Yr Alban

Dyw Nerys ddim yn teimlo bod lleisiau ceidwadol San Steffan yn cynrychioli gofynion Albanwyr. "Nid ar fy nghais i ma arfau niwclear yn yr Alban" - medde Nerys. Fe glywais waddol yr wythdegau yn cael ei hailadrodd sawl tro; treth y pen, diwedd diwydiant. Rhesymau i gynddeiriogi am bolisïau sy'n bell o realiti Albanwyr cyffredin, medde hi.

Ond beth am y risg? Y diffyg atebion, yr ansicrwydd. Dyna sy'n cael ei ailadrodd dro ar ôl tro gan y rhai am aros yn yr undeb. "Annibyniaeth waeth be' fo'r gost" - pryder Ceri Green, sy'n byw rhyw dri chwarter awr i'r gorllewin o Glasgow yn nhre' Helensburgh.

Image caption Mae sticeri'r ymgyrch Ie i'w gweld yn amlwg iawn er bod yr arolygon barn yn dal i awgrymu bod y bleidlais Na ar y blaen

'Ansicrwydd swyddi'

Dyma dre' sy'n elwa o safle niwclear Faslane. Mae oddeutu wyth mil o bobl leol yn gweithio ar y safle, a nifer o'r rheiny am bleidleisio yn erbyn annibyniaeth, a hynny am i Alex Salmond ddatgan fod yr SNP yn bwriadu cael gwared ag arfau niwclear mewn Alban annibynnol. Iddyn nhw, pam pleidleisio dros wlad heb sicrwydd o swydd yn y pendraw? A beth am yr economi?

Breuddwyd heb ddiogelwch ariannol, medde Ceri. Hyd yn oed petai modd i'r Alban gadw'r bunt, pryder Ceri yw y bydd gwir bŵer cyllidol y wlad yn nwylo Banc Lloegr. Gwlad lled-annibynnol felly, fydde'n ddibynnol ar benderfyniadau llywodraethwyr banc tramor. Beth yw annibyniaeth gwleidyddol heb annibyniaeth economaidd? A beth am ei bensiwn?

Image caption Elin James Jones gyda Ceri Green ger safle'r llynges yn Faslane ar lannau afon Clud

Sut ddyfodol?

Blas yn unig yw rhain o blith nifer o ddadleuon sy'n ganolog i sgyrsiau'r 'stafell fyw. Ond yr hyn 'na'th fy nharo yn fwy na dim oedd natur anghonfensiynol yr ymgyrch. Amhosib yw osgoi'r bleidlais ar bron i bob un stryd yn nhrefi a phentrefi'r Alban.

Dyma i chi bobl gyffredin ym mhob un cymuned yn ystyried y cwestiwn o ddifri'. Unigolion â'u meddyliau yn agored, yn barod i drafod defod y bunt dros frecwast. Ac wrth i nifer o ragolygon ddatgan y gallai bron i 85% fwrw pleidlais ar Medi 18, dyma i chi boblogaeth sydd wedi ymrwymo i'r gred fod dyfodol gwleidyddol yr Alban wirioneddol yn eu dwylo nhw.