Colli 113 o swyddi ger Pont-y-pŵl

Arwydd MWL Image copyright BBC news grab

Mae mwy na 100 o bobl wedi colli eu swyddi wedi i gwmni argraffu ger Pont-y-pŵl, yn Nhorfaen, gau.

Daeth gweithgareddau'r cwmni MWL Print Group i ben ddydd Gwener a chollodd 113 o weithwyr eu gwaith.

Cafodd y cwmni ei sefydlu yn 1973 ac roedd yn gwneud gwaith megis argraffu prosbectysau ar gyfer prifysgolion.

Dywedodd Adam Romanic, 37 oed, wrth BBC Cymru ei fod wedi gweithio i'r cwmni am gyfnodau gwahanol dros 16 mlynedd ac roedd yn "siomedig" wedi iddo gyrraedd adref o'i wyliau i'r newyddion.

"Roedd gennym ni nifer dda o gleientiaid ac roedd son y byddai'r cwmni'n cael ei brynu gan y rheolwyr, ond nid ydi yw'n ymddangos fod hynny wedi digwydd.

"Mae gen i nifer o ffrindiau yma, ac mae pawb yn hynod siomedig."