Arweinydd newydd i Gyngor Abertawe

Swansea County Council
Image caption Llafur sy'n reholi Cyngor Abertawe

Mae'r cynghorydd Rob Stewart wedi cael ei ethol yn arweinydd y grŵp Llafur sy'n rheoli Cyngor Dinas Abertawe.

Bydd yn olynu David Phillips wnaeth ymddiswyddo fel arweinydd y cyngor yr wythnos diwethaf.

Roedd y cynghorydd Phillips, tra'n arweinydd, wedi diswyddo Mr Stewart - aelod cyllid y cabinet - ynghyd â Will Evans oedd yn gyfrifol am y portffolio addysg.

Ar ôl cael ei ethol yn arweinydd nos Lun dywedodd Mr Stewart: "Dyw newid arweinydd ddim yn golygu newid cyfeiriad, ond mae e yn golygu mwy o ffocws ar gyflawni.

"Dros yr wythnosau nesa rwy'n disgwyl dweud mwy am y penderfyniadau anodd ar wario. Mae'n rhaid i'r penderfyniadau hyn adlewyrchu blaenoriaethau o ran y cymunedau sydd wedi ein hethol."

Bwriad Mr Stewart yw i gadw ei bortffolio cyllid gan gyfuno hynny gyda'i rôl newydd fel arweinydd.

Straeon perthnasol