Masnachu pobl yn cynyddu yng Nghaerdydd

dwylo mewn cyffion

Cafwyd cynnydd yn y nifer o bobl sy'n cael eu masnachu yng Nghaerdydd, yn ôl adroddiad newydd.

Dywed adroddiad y tasglu a sefydlwyd gan Gyngor Caerdydd bod merched yn cael eu hecsbloetio ar gyfer rhyw a phlant yn cael eu gorfodi i weithio.

Mae ffigyrau newydd yn dangos fod nifer y plant sydd mewn perygl sylweddol o gawl eu hecsbloetio yn y ddinas wedi mwy na dyblu, ac mae'r achosion o fasnachu pobl ledled Cymru hefyd wedi codi o 34 i 50 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ond mae arbenigwyr yn dweud mai dim ond crafu'r wyneb mae'r ffigyrau hyn gan nad yw llawer o achosion yn cael eu cofnodi yn swyddogol.

Dywedodd y tasglu fod y "dystiolaeth yn dangos bod masnachu mewn pobl yng Nghaerdydd yn cynyddu mewn carfannau gwahanol, am bob math o resymau gwahanol."

Mae nifer y plant yn y ddinas sy'n cael eu hystyried fel rhai sydd mewn "risg sylweddol" o gamdriniaeth rywiol wedi cynyddu o 12-28 rhwng 2012/2013 a 2013/2104, yn ôl elusen y plant, Barnardos.

Ymhlith canfyddiadau adroddiad y tasglu:

  • Masnachu plant yn 'fewnol' ar gyfer camdriniaeth rywiol yw'r "broblem fwyaf" yn ne Cymru, yn ôl yr heddlu.
  • Pocedi bach o gamdrinwyr oportiwnistaidd sydd i gymharu â gangiau o dramor.
  • Pryderon bod plant hefyd yn cael eu gorfodi i weithio, er enghraifft mewn ffatrïoedd canabis.
  • Pryderon am fasnachu pobl ar gyfer caethwasiaeth domestig drwy gyfrwng maethu plant yn breifat.
  • Mae merched sy'n gweithio mewn puteindai yng Nghaerdydd â "lefelau uchel o orfodaeth yn eu bywydau" ac mae rhai wedi cael eu masnachu.
Image copyright Thinkstock

Mae'r adroddiad hefyd yn cyfeirio at bum achos llys yn yr ardal yn ystod y tair blynedd diwethaf, gan gynnwys achos ym mis Ionawr lle cafodd cwpl eu carcharu am fasnachu dwy ddynes Tsiec i weithio fel puteiniaid.

Mewn achos arall gwelwyd merched yn cael eu symud o gwmpas y DU, gan gynnwys dau le yng Nghaerdydd.

Mae Cyngor Caerdydd wedi cael eu hystyried yn arweinwyr yn y maes o ran mynd i'r afael â masnachu pobl, ond maent yn edrych ar beth arall y gallant ei wneud. Mae hyn yn cynnwys codi ymwybyddiaeth am sut i adnabod arwyddion o fasnachu pobl a gwella hyfforddiant ar gyfer staff sy'n delio a'r broblem.

Pryder arall yw bod rhestr aros o ddwy flynedd ar gyfer y rhai sydd angen cymorth ar gyfer straen ôl-drawmatig ar ôl cael eu hecsbloetio.

Mae pryder hefyd fod rhai dioddefwyr wedi cael cynnig llety anaddas ac nad oes gweithwyr cymdeithasol cymwysedig wedi bod ar gael pan oedd achosion yn cael eu cyfeirio at y gwasanaethau am y tro cyntaf.

Image copyright Home Office
Image caption Llun o hysbyseb y Swyddfa Gartref ynglŷn â chodi ymwybyddiaeth masnachu pobl ar gyfer caethwasiaeth

Mwy o ymwybyddiaeth

Dywedodd yr elusen Black African Women Step Out (BAWSO), sy'n cynorthwyo dioddefwyr masnachu pobl o gymunedau ethnig, fod y broblem wedi bodoli erioed, ond bellach, mae mwy o ymwybyddiaeth gan weithwyr proffesiynol ym maes iechyd ac addysg dros y mater.

Dywedodd Dr Mwenya Chimba, cyfarwyddwr trais yn erbyn menywod gyda BAWSO: "Mae'r broblem yn un fawr iawn, ond nid yw'r achosion sydd wedi eu cyfeirio yn adlewyrchu graddau'r broblem."

Dywedodd Yvonne Rodgers, Cyfarwyddwr Barnardos Cymru, fod gweithio mewn partneriaeth rhwng yr heddlu, y cynghorau a'r elusen wedi cynyddu, a bod hynny wedi arwain at fwy o blant sydd mewn perygl o fasnachu yn cael eu hadnabod, mwy o gyfeiriadau a mwy yn cael ei wneud i amddiffyn y plant rheini.

"Mae angen i ni barhau gyda'r patrwm yma fod yr awdurdodau a'r heddlu yng Nghymru yn defnyddio eu hystod lawn o bwerau a thactegau i atal a rhwystro'r gamdriniaeth ac amddiffyn plant rhag y cam-drin erchyll hwn," ychwanegodd.

Mae nifer fawr o achosion yn y DU yn cynnwys pobl o wledydd fel Nigeria, Fietnam, Tsieina, Albania a Romania.

Yn gynharach eleni, fe lansiodd llywodraeth y DU'r ymgyrch genedlaethol gyntaf gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth caethwasiaeth modern yn y DU.