Adam Matthews allan o garfan Cymru

Adam Matthews Image copyright Getty Images
Image caption Matthews yw'r trydydd chwaraewr i dynnu'n ôl o garfan Cymru

Amddiffynwr Celtic, Adam Matthews yw'r trydydd chwaraewr i dynnu'n ôl o garfan Cymru i chwarae yn erbyn Andorra yng ngêm ragbrofol cyntaf Ewro 2016.

Bydd Declan John o glwb Caerdydd yn cymryd ei le.

Eisoes roedd asgellwr Reading, Hal Robson-Kanu ac amddiffynnwr West Ham, James Collins wedi tynnu nôl o garfan Chris Coleman ar gyfer y gêm ar Medi 9.

Mae disgwyl i FIFA wneud penderfyniad os yw cae artiffisial 3G newydd Andorra yn addas i chwarae'r gêm arno.

Roedd profion a gynhaliwyd yr wythnos ddiwethaf yn dangos fod y bêl yn rholio'n rhy gyflym ar yr wyneb ac os na fyddai Andorra yn gallu cywiro'r broblem, yna bydd y gêm yn gorfod cael ei symud i wlad arall.

Image copyright PA
Image caption Y stadiwm cenedlaethol newydd, sy'n dal 3,300 yn y brifddinas Andorra le Vella yw'r unig leoliad yn y wlad sy'n gallu cynnal y gemau rhagbrofol Ewro 2016

Straeon perthnasol