Enwi deifiwr fu farw yn Chwarel Dorothea ddydd Sul

Hofrennydd
Image caption Cafodd dau ddyn arall eu cludo i'r ysbyty mewn hofrennydd

Y deifiwr fu farw yng ngogledd Cymru ddydd Sul oedd Julian Philip Kelsal o Sir Stafford.

Aeth y dyn 41 oed i drafferth tra oedd 40m o dan wyneb y dŵr yn Chwarel Dorothea yn Nyffryn Nantlle.

Cafodd ei dynnu allan o'r dwr a'i gludo i Ysbyty Gwynedd ond bu farw yn ddiweddarach.

Mae Crwner Gogledd Cymru wedi dechrau ymchwilio.

Cafodd dau ddyn arall eu cludo i'r ysbyty yn dioddef o effaith parlys y môr.

Straeon perthnasol