Dynes ar goll: Teithio i Gaerdydd?

Laura Robey
Image caption Does neb wedi gweld Laura Robey ers Awst 27

Mae Heddlu Dyffryn Tafwys yn gofyn am gymorth i ddod o hyd i ddynes 34 oed sydd ar goll o'r chartref yn Faringdon.

Does neb wedi gweld Laura Robey ers oriau mân dydd Mercher, 27 Awst.

Mae gan yr heddlu reswm i gredu bod Laura - sydd hefyd yn defnyddio'r enwau Poppy Brett a Poppy Jones - wedi teithio i dde Cymru a'i bod yn ardal Caerdydd.

Mae hi oddeutu pum troedfedd a thair modfedd, a chanddi wallt brown.

Oherwydd cyflwr ei iechyd, mae'r heddlu'n dweud eu bod nhw'n poeni amdani.

Mae hi'n gyrru car Saab du.

Gall unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â chanolfan 24 awr Heddlu Dyffryn Tafwys a gofyn am siarad â'r sarjant ar ddyletswydd yng ngorsaf heddlu Abingdon.