Prosiect £4.5m yn Abertawe i ddechrau ym mis Hydref

Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu gymryd tair blynedd. Image copyright Getty Images
Image caption Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu gymryd tair blynedd.

Bydd cam cyntaf prosiect gwerth £4.5 miliwn i adeiladu ffordd i gysylltu canol dinas Abertawe gyda Stadiwm Liberty yn cychwyn ym mis Hydref.

Y gobaith yw y bydd y ffordd newydd yn denu busnesau newydd ac yn helpu i leihau traffig ar Ffordd Castell-nedd yn Hafod, sydd eisoes yn dioddef o lefelau uchel o lygredd.

Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu gymryd tair blynedd.

Fe fydd y ffordd yn gyfochrog ag Afon Tawe, a'r disgwyl yw y bydd yn gwella llif y traffig ar gyfer gemau yn Stadiwm Liberty.

"Nid yw'r gwaith yn uniongyrchol gysylltiedig â'r rhwydwaith priffyrdd presennol ac nid yw'n agos at unrhyw eiddo preswyl felly nid ydym yn disgwyl gweld llawer o darfu ar drigolion a modurwyr," meddai June Burtonshaw, aelod cabinet yng nghyngor Abertawe.

"Bydd y ffordd yn rhoi mynediad uniongyrchol i nifer o safleoedd datblygu ar hyd glannau Afon Tawe ac yn hanfodol er mwyn denu buddsoddiad i'r ardal".

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.