Gêm gyfartal i Forgannwg yn erbyn Caint

LV= Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd, St Lawrence
Morgannwg 329 a 415-9, Caint 387
Morgannwg 9 pwynt, Caint 11 o bwyntiau
Mae Morgannwg yn wythfed yn y bencampwriaeth
Image caption Graham Wagg (chwith) oedd yr arwr mawr

Cafodd Morgannwg gêm gyfartal yn erbyn Caint wrth i Graham Wagg sgorio 116 o rediadau.

Ar ddechrau'r diwrnod roedd Morgannwg 150-3 cyn colli Jm Allenby (20) a Gareth Rees (81).

Ond roedd perfformiad Wagg yn ddigon i chwalu gobeithion Caint.

Bowliodd Mitchell Claydon (3-36) yn grefftus ond roedd Mark Wallace (45) a David Lloyd (41) yn gefn iddo.

Dywedodd hyfforddwr Morgannwg Toby Radford: "Roedd hi'n her pan gollon ni ddwy wiced ond dyfalbarhaodd Wallace.

"Dangosodd David Lloyd ei fod yn aeddfed a Waggy oedd yr arwr mawr."

Mae hyn yn golygu bod Caint yn bumed yn y bencampwrieth tra bod Morgannwg yn wythfed.